Y Ffordd a'r Bywyd mawr

Y Ffordd a'r Bywyd mawr
Yw Iesu Grist o'r llawr
  I deyrnas ne';
O safn angeu glas,
Pwy all'sai'n tynnu 'ma's
O'r ffau uffernol gas?
  Neb ond efe.

Gelynion lawer mil,
Sy' o ddeutu'r llwybr cul
  Lle 'rwyf yn byw:
Dal fi â'th nerthol law,
Rhag crwympo yma 'thraw:
Y tywyll ddydd a ddaw
  Bydd im' yn Dduw.

Tan gysgod gwych y pren
Sydd a'i frigau uwch y nen,
  Trig f'enaid byw;
Er gelynion rif y gwlith,
A swn y stormydd chwith
Mi lecha tano byth,
  Im' Noddfa yw.

O Arglwydd mawr, fy rhan,
Ti wyddost ym mhob man
  Mae egwan wy';
Tueddol o bob tu
I gwympo oddi wrthyt ti,
Dal fi â'th allu cry'
  Rhag pechu mwy.

Gwnes addunedau fil,
I gadw'r llwybr cul,
  Ond ffaelu 'rwy';
Preswylydd mawr y berth,
Chwanega etto'm nerth,
I ddringo'r creigiau serth,
  Heb flino mwy.

O Arglwydd mawr fy ngrym,
Ni alla'i hebddost ddim;
  Gwan wyf erio':
Y llesga' i gyd i ma's,
O bawb a gafodd ras,
Rho nerth im' gario'r ma's,
  Ti gei y clod.

Meddyliais lawer gwaith
O ddechreu dyddiau nhaith,
  Syrthiwn yn friw
Dros greigydd mawrion chwith,
Heb feddu heddyw chwyth,
Diolch i'th enw byth,
  Wele fi'n fyw.

Hosanna hyd y nen,
I Frenin nefoedd wen,
  Am drugarhau
Wrth furgyn ffiaidd gwael,
A rhoddi i mi'n hael,
O rad drugaredd gael
  Fy llwyr lanhau.
Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo, 1764.

[Mesur: 664.6664]

gwelir:
  Gwnes addunedau fil
  O tyred Awdwr hedd (Rho i mi … )

The great Way and the Life
Is Jesus Christ from the earth
  To the kingdom of heaven;
From the jaws of utter death,
Who could pull me out
From the detestable hellish lair?
  None but he.

Many a thousand enemies,
Are around the narrow path
  Where I am living:
Hold me with thy strong hand,
From falling here and there:
On the dark day that is coming
  Be thou God to me.

Under the brilliant shade of the tree
Which has its twigs above the sky,
  My living soul shall dwell;
Despite enemies numerous as the dew,
And the sound of the troublesome storm
I will shelter under it forever,
  It is a refuge for me.

O great Lord, my part,
Thou knowest in every place
  That I am weak;
Tending on every side
To fall away from thee,
Hold me with thy strong power
  From sinning any more.

I made a thousand promises,
To keep the narrow path,
  But failing I am;
Great dweller of the bush,
Increase again my strength,
To climb the steep rocks,
  Without wearying any more.

O great Lord of my force,
Without thee I can do nothing;
  I am always weak:
The feeblest of all out,
Of everyone who got grace,
Give strength to me to carry the field,
  Thou shalt get the praise.

I thought many times
From the start of the days of my journey,
  I would fall bruised
Over great, awkward rocks,
Without possessing breath today,
Thanks to thy name forever,
  Behold I am alive.

Hosanna as far as the sky,
To the King of bright heaven,
  For mercies
To a detestable, base wretch,
And giving to me generously,
From free mercy to get
  Completely cleansed.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~